Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mawrth, 10 Hydref 2023
Amser y cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
Datganiad gan y Llywydd
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
(30 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
3 Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Rhoi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru
(45 munud)
4 Dadl: Y GIG mewn 10 mlynedd a mwy: archwiliad o effaith amcanestynedig cyflyrau hirdymor a ffactorau risg yng Nghymru
(60 munud)
NDM8372 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi adroddiad y Prif Gynghorydd Gwyddonol dros Iechyd ar ‘Y GIG mewn 10 mlynedd a mwy: Archwiliad o effaith amcanestynedig cyflyrau hirdymor a ffactorau risg yng Nghymru’.
2. Yn croesawu canfyddiadau’r adroddiad a fydd o gymorth ar gyfer llunio polisïau yn y dyfodol o dan Cymru Iachach.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 Heledd Fychan (Canol De Cymru)
Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:
3. Yn credu, os yw GIG Cymru am gael ei ddiogelu ar gyfer heriau'r dyfodol, mae’n hanfodol cadw'r gweithlu presennol a recriwtio rhagor o staff.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) sicrhau bod gweithwyr y sector iechyd a gofal yn cael y codiad cyflog sy'n ddyledus iddynt ynghyd â thelerau ac amodau gwaith sy’n addas i'r diben, gan gynnwys arferion gweithio hyblyg a chyfleoedd hyfforddiant mewn gwaith; a
b) datblygu strategaeth gyflawni glir gyda thargedau a chostau llawn ar gyfer cynllun gweithlu newydd, gan gynnwys camau i dynnu elw o waith asiantaeth.
5 Cyfnod pleidleisio
6 Dadl: Cyfnod 3 Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru)
(90 munud)
Caiff y gwelliannau eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn ymddangos yn y cynnig o dan Reol Sefydlog 26.36 a dderbyniwyd gan y Senedd ar 27 Mehefin 2023.
Mae’r gwelliannau wedi cael eu grwpio at ddibenion y ddadl a byddant yn cael eu trafod fel a ganlyn:
1. Technegol
7, 8, 9, 10, 11, 12
2. Caffael gwasanaethau gofal cymdeithasol sy’n gysylltiedig â gwasanaethau iechyd fel rhan o gaffaeliadau cymysg
1, 5
3. Egwyddorion caffael a llywodraethiant y gwasanaeth iechyd
20, 15, 17
4. Effaith cysoni neu ddargyfeirio rheoleiddiol
2, 18
5. Gweithredu rheoliadau o dan adran 10A(1)
14, 16, 19, 23, 25
6. Rhan y sector gwirfoddol a’r trydydd sector
21
7. Ymgynghori ynghylch rheoliadau o dan adran 10A(1) o Ddeddf y GIG (Cymru) 2006
22
8. Cydymffurfedd â dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus
3
9. Rhyngweithio â’r cyd-destun polisi, deddfwriaethol a strategol ehangach
4
10. Adolygu gweithrediad rheoliadau o dan adran 10A
6
11. Gweithdrefn graffu ar gyfer rheoliadau o dan adran 10A(1)
24, 26, 13
Dogfennau Ategol
Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru), fel y’i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 2
Memorandwm Esboniadol, diwygiwyd ar ôl Cyfnod 2
Rhestr o Welliannau wedi’u Didoli
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 11 Hydref 2023